Amdanaf Ni
Cerddor wyf sy,n cyfansodi, perfformio, dysgu ac sy’n hoffi arbrofi a difyfyrwaith, Gadewis Gymru pan oeddwn yn17 oed pan benderfynais grwydro’r byd. A dyna beth wyf wedi wneud.
Mae fy ngwaith yn dal i fynd a fi i lefydd annisgwyl yn y byd. Syndod i mi yw sut mae y gwahoddiadau yn arwain i brofiadau o lefydd newydd o hyd.
Feddyliais i erioed y buaswn yn gwrando ar fenywod o Fadagasgar yn canu caneuon traddodiadol mewn bws oedd yn teithio yn araf, araf dros ffordd anwastad llawn tyllau enfawr a grewyd gan lifogydd.
Neu mynd ar goll yn anialwch Gobi ganol nos yn yfed diod y Mongoliaid i gadw’n gynes tra yn dysgu can Rod Stewart’I am Sailing” i un o gantorion enwocaf Xhoomi y Mongoliaid.
Cael gwersi canu Cerddoriaeth Ouhm Khalsoum ar Felucca tra’n teithio lawr y Nile yn yr Aifft.
Bob dydd rwyf yn meddwl fy mod yn ffodus iawn i fod yn gerddor. Rwyf yn ennill bywioliaeth wrth wneud yr hyn a garaf yn fwy na dim. Mae yn anrhydedd.
Mae cerddoriaeth yn iaith gyfanfydol. Mewn byd peryglus ble mae bygythiad o derfysg yn barhaol rwyf ynawyddus i wneud gwaith syn ddathliad o ddiwylliant Mwslinaidd a Gorllewinol.
Dyma fy ffordd o orchfygu yr hunllef o ddiffyg grym i newid anghyfiawnderau y byd.
Rwyf yn awr wedi dod yn ol i Gymru i ail ddarganfod fy ngwreiddiau.
Mae y mynyddoedd a thirwedd fy mhlentyndod yn fy ngalw yn ol.
Rwyf am ail gysylltu a mannau arbennig, clywed a siarad Cymraeg eto a gobeithio gweithio efo cerddorion yng Nghymru.
Yn y wefan hon gallwch gael hanes y prosiectau, gwrando ar rhai tracs, prynnu CD, Dod i wybod am y perfformiadau a’r gigs sydd i ddod.
Mwynhewch
![]()
Isod y gwelwch fy CV bach.
Gellir gweld fersiwn llawn o’m CV yma
Darllenwch y sesiwn Cwestiwn ac Ateb rhwng Sianed a Mike Butler METRO LIFE
CV Bach Sianed Jones
- Cyfansoddwraig yn arbenigo mewn Technegau Lleisiol Estynedig,
- Athrawes, Perfformiwr, Trefnydd Byrfyfyr, Rhaglennydd.
- B.A (Anrhydedd) Gradd mewn Cerddoriaeth, Dartington College of Arts 1980
- M.Mus. Gradd mewn Cyfansoddi Electro-acwstig, University of East Anglia 1997
A hithau wedi’i thrwytho mewn canu corawl Cymreig yr Eisteddfodau yn ystod ei magwraeth, gadawodd Sianed Gymru a theithio’r byd gan ymchwilio i dechnegau lleisiol.
Mae ei hymchwil i dechnegau lleisiol wedi mynd â hi e Ddwyrain Affrica i’r Aifft, Cenia, Tansania, Madagascar, (1987) Mongolia (1994) Kazakhstan, a Kyrgistan (1999).
Gan weithio fel cyfansoddwr, perfformiwr a threfnydd byrfyfyr, mae Sianed wedi cydweithio gyda:
- Coreograffydd (Tiana Razafi Madagascar)
- Ymarferwyr Theatr (IOU + WELFARE STATE INTERNATIONAL Nos Do Morro – Brasil)
- The Royal Shakespeare Company
- Awduron / beirdd perfformiol (Cris Cheek)
- Chwedleuwyr (Ben Haggarty)
- Gwneuthurwyr fideo a gwneuthurwyr ffilmiau (Warner Bros ‘Troy’ Mike Figgis ‘Miss Julie’)
- Prosiectau mewn-berfformiad (Kahondo Style, slant, Andy Sheppard)
- Gweithiau sy’n benodol i safle (London Musicians Co-op),
- Cydweithrediadau amlddiwylliannol (Garam Masala).
Mae Sianed hefyd wedi creu sioeau un person gan gynnwys electroneg a thafluniadau gweledol. Mae ei chaneuon yn creu cymysgedd meddwol o ddylanwadau. Symudodd Sianed yn ôl i Gymru i fyw yn ddiweddar.









