Amdanaf Ni - CV Addysg
CV Addysg a Phrosiectau yn y Gymuned
B.A (Anrhydedd) Gradd mewn Cerddoriaeth, Dartington College of Arts 1980
M.Mus. Gradd mewn Cyfansoddi Electro-acwstig, University of East Anglia 1997
Mae ymchwil i dechnegau lleisiol wedi mynd â hi i’r Aifft, Cenia, Tansania, Madagascar, (1987) Mongolia (1994) Kazakhstan, a Kyrgistan (1999).
Rwyf wedi dysgu technegau lleisiol estynedig, cyfansoddi a pherfformio byrfyfyr mewn llawer o gyd-destunau:-
- Cyfansoddwr / Cydweithredwr / Athrawes i’r Royal Shakespeare Company. Perfformiwyd drama Shakespeare The Two Gentlemen of Verona ym Mhortiwgaleg a Saesneg fel rhan o’r Complete Works Festival yn Stratford upon Avon 2006. Gwaith cydweithredol rhwng cwmni o bobl ifainc o Frasil, Nos Do Morro wedi’i leoli yn Rio de Jeneiro a Gallery 37 wedi’i leoli yn Birmingham. Teithiodd Sianed i Frasil i weithio gyda’r cwmni ochr yn ochr â Cisely Berry i baratoi am y prosiect.
- Cyfansoddwr / Athrawes ar gyfer y Singing Squad gweithdy canu / perfformiad wythnosol i bobl yn eu harddegau yn Norwich. Comisiynwyd Sianed i ysgrifennu caneuon ar gyfer a chyda’r grwp.
- Un o dîm addysgol y Royal Shakespeare Company yn rhedeg gweithdai yn ymwneud â chynhyrchiad Twelfth Night Shakespeare. Cyfansoddwyd a pherfformiwyd y gerddoriaeth ar gyfer tymor 2005 gan Sianed Jones a John Wolf, cafodd ei chyfarwyddo gan Michael Boyd.
- Cyfansoddwr / Trefnydd Byrfyfyr ar gyfer Chapter 4 Dance Company yn gweithio gyda chymysgedd o ddawnswyr proffesiynol, lleol, dawnswyr pobl ifainc a dawnswyr anghenion arbennig, i greu prosiect penodol i safle Falling Thoughts, Rising Secrets yng Ngerddi Chapel field a gafodd ei berfformio wedyn yn The Garage Norwich. 2005
- Unawdydd ac athrawes ochr yn ochr â Jon Baker a chyfarwyddwr côr Siân Croose ym mherfformiad côr cymunedol Bigger Sky ‘Letters to the World’. Trefniannau o gerddi Emily Dickenson a gyfansoddwyd gan Karen Wimhurst. Cafodd ei berfformio gyntaf yn Eglwys Gadeiriol Norwich yn ystod Gwyl Norwich a Norfolk 2004
- Tiwtor lleisiol ar gyfer y cwrs Mynediad i Gerddoriaeth Norwich (2002 – 2004)
- Unawdydd ac athrawes ymarfer (ynghyd â Siân Croose Arweinydd, a Jon Baker unawdydd / athro) ar gyfer trefniannau Barbara Thomson ‘A Journey to a Destination Unknown’ o farddoniaeth gan Rabindrath Tagore ac Andrew Motion ar gyfer côr cymunedol 100 o leisiau ‘Big Sky’, a berfformiwyd yn St Johns Smith Square, Llundain 2003
- Cyfansoddwr / Athrawes ar gyfer Gŵyl Norwich a Norfolk, prosiect Voice House pobl ifanc ochr yn ochr ag athrawon / cyfansoddwyr Siân Croose a Jon Baker (2002)
- rhan o dîm addysgu Community Music East a leolwyd yn Norwich (2001 – 2003)
- Fel athrawes yn gweithio gyda thechnoleg a dawnsio byrfyfyr ar wyl Ddawns a Darnau Byrfyfyr Ryngwladol Lerpwl. (2000)
- addysgu cerddoriaeth / technoleg ar gwrs animeiddio ar gyfrifiadur ar gyfer pobl yn eu harddegau gyda Welfare State International. (2001)
- fel athrawes a pherfformwraig yn Symposiwm ‘Os Digwydd Byrhoedleddau Testun Ysgrifennu’ yn Ysgol Theatr Utrecht. (‘99)
- addysgu’n llawrydd yn adran gerdd Prifysgol East Anglia ac yn yr adran theatr yn Dartington College of Arts. (‘97 ‘98 ‘99)
- rhoddwyd preswyliad yn Liverpool Institute of Performing Arts (‘97) gyda choreograffydd Paula Hampson i greu perfformiad penodol i safle gyda myfyrwyr dawns a cherdd a dawnswyr rhanbarthol proffesiynol.
- fel cyfansoddwr preswyl ar brosiectau penodol i safle gydag Ysgol Haf Dawns Ieuenctid Genedlaethol yr Alban. (‘93 – ‘98)
- addysgu ar wahanol gyrsiau drwy Community Music East wedi’i leoli yn Norwich (‘95 -’97) a chyda Suffolk Dance wedi’i leoli yn Ipswich.
- Cyfansoddwr / Cyfarwyddwr ac Athrawes Cerdd ar gyfer The Company of Imagination – cwmni-theatr-gweledol-dawns-cerddoriaeth-amlddiwylliannol, gan wneud trefniadau prosiectau awyr agored penodol i safleoedd gyda chymunedau mewn amgylchedd gwledig a threfol fel ei gilydd. 1989 – 1991 ’The Landing of Arcadia’ a ‘Cycle of Birds’
- Athrawes gweithdy lleisiol ar y cwrs cerddoriaeth yn Oval House yn Llundain (Cyfarwyddwr Eugeene Skeefe) ’87 – 94









