Amdanaf ni - Sianed Q&A
Mae Bjork, Laurie Anderson a Meredith Monk yn darparu’r cyfeirbwyntiau ar gyfer y gantores / y gyfansoddwraig Sianed Jones, a ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad cyfredol yr RSC o Twelfth Night. Mae hi’n perfformio sioe un person, gyda gwesteion ar nos Sul i arddangos caneuon o ‘surrender’, ei halbwm newydd sy’n torri delweddau genres.
Beth yw eich cefndir?
Gwnes i radd yn y feiolin glasurol ac es i i Dartington College of Arts. Yna symudais i Lundain a gwnes i lawer o waith gyda chwmnïau theatr a dawns. Roeddwn hefyd yn gweithio gyda bandiau dawns De America, rhai fusion a rhai o Affrica a rhan o’r byd byrfyfyr rhydd hefyd, yn ogystal â photsian gydag electroneg, felly tipyn o gymysgedd. Teithiais i Affrica hefyd ac i leoedd fel Mongolia a Kazakhstan gyda fy ngwaith.
Y peth trawiadol am ‘surrender’ yw amrywiaeth y gerddoriaeth. Mae’n ymddangos nad oes unrhyw beth y tu hwnt i’ch adnoddau, o leisiau Bwlgaraidd i ffidl a ffliwt werin.
I rai pobl mae’n anodd ymdopi â hynny, ond mae gennyf i ddiddordeb mewn cymaint o fydoedd gwahanol. Mae gennyf i ddiddordeb mewn ffurf ganeuon, ond mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn canu’n frwd a gweld i ble y mae byrfyfyr rhydd yn gallu arwain.
Mae’n wahanol iawn i ddarparu’r gerddoriaeth achlysurol ar gyfer Twelfth Night?
Mae popeth yn y perfformiad hwnnw wedi’i amseru a’i hogi i lawr i nano-eiliadau. Fel cerddor, mae’n rhaid imi gynhyrchu rhywbeth fydd yn dweud llawer iawn, ond nid oes ond 20 eiliad gennyf i’w wneud. Dyna ddisgyblaeth ffantastig.
Ydych chi’n berfformwraig llwyfan danbaid?
Mae gennyf i bersona cryf ar y llwyfan. Gwnaf i sŵn mawr, os ydych chi’n deall beth rwy’n ei feddwl.
Canolbwynt yr albwm yw’r gân honno 9/11, ‘What’s the Time Mr Wolf? Os na bwnc na ddylid rhoi triniaeth artistig iddo?
Mae gennyf i ddiddordeb mewn mynd i’r afael â phynciau anodd. Mewn ffordd dyna’r unig arf sydd gennyf i gyffwrdd â phobl. Wrth i mi ysgrifennu, roeddwn i’n dychmygu’r panig oedd yn digwydd yn yr adeilad, ac roeddwn i’n dychmygu dwy ffigwr yn cwympo allan. Dw i eisiau i bobl brofi hynny, ac i deimlo’n gythryblus ac yn ansicr.
Mike Butler METRO LIFE (2005)









