englishcymraeg

Glossolalia

GLOSSO_1.jpg

Ddydd Sul Mawrth 18fed 2007

Gŵyl Jazz Sage Gateshead

‘Glossolalia’ Andy Sheppard / Bigger Sky

Roedd y gyngerdd yn wych! Roedd y ddau gôr o Norwich a Newcastle yn ymdoddi’n berffaith. Roedd pobl Newcastle yn croesawu pobl Norwich i’w tref a phobl Norwich yn arllwys balm cysurlon dros nerfau’r rhai o Newcastle a nhwythau wedi perfformio’r gyngerdd unwaith o’r blaen. Roedd yn edrych ac yn swnio’n syfrdanol roedd y goleuo yn ffantastig. Un o’r adegau mwyaf gwefreiddiol oedd gwylio’r côr wedi’u gwisgo mewn du yn cerdded yn dawel o gefn yr awditoriwm ar y llwyfan tra bod Andy’n canu cân yr adar ar y pryd, fel Gŵr y Fantell Fraith yn hebrwng y côr i’r llwyfan. Roeddwn i’n mwynhau cymaint yn cyfansoddi ar y pryd, bu bron i mi fethu arwydd Siân i orffen y darn ar nodyn hir uchel!!!!!!! Roedd ysbryd y gyngerdd yn ffantastig dawnsfeydd melodaidd Andy, rhythmau a lleisio Kuljit Bhamra yn gyrru’r côr, cordiau gitâr anwesol sensitif John Parricelli yn rhwymo’r sain at ei gilydd gyda’r lleisiau cyfunedig. Seiniau i ail-ymweld â nhw yn fy mreuddwydion.

Hanes

Dyma ychydig bach o gefndir i’r prosiect hwn. Bob blwyddyn ers rhyw 6 blynedd mae Siân Croose fel arweinydd a chyfarwyddwraig côr cymunedol Big Sky yn comisiynu (gyda chefnogaeth Gŵyl Norwich a Norfolk) cyfansoddwr i gyfansoddi darn ar gyfer côr cymunedol o 100 o leisiau. Mae’n brosiect agored, gall unrhyw un o gwbl fod yn rhan ohono, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o gwbl. Y cwbl sydd ei angen i ymuno yw brwdfrydedd ac ymrwymiad i’r prosiect. Mae gan gôr Big Sky tua 50 o leisiau, mae e’n bodoli ers rhyw 10 mlynedd erbyn hyn ac mae ganddo gryn brofiad mewn mynd i’r afael â phob prosiect newydd. Mae hyn yn rhoi asgwrn cefn i’r côr gan roi hyder i’r tua 50 o gantorion Bigger Sky. Mae Siân Croose wedi ymuno â Jon Baker gan ffurfio tîm addysgu aruthrol i fynd â’r côr trwy’r broses o ddysgu. Mae’r dialog rhwng Siân a’r cyfansoddwyr yn ystod cyfansoddi ac ymarfer y darn yn hanfodol i’w lwyddiant. Bob blwyddyn mae un noson yn unig i’w gael yn iawn a phob blwyddyn mae’n brofiad arbennig i bawb sy’n cymryd rhan, boed yn berfformiwr profiadol, yn berson proffesiynol neu yn rhywun sydd wedi cerdded ar y llwyfan am y tro cyntaf.

tags:

Back