englishcymraeg

Nos Do Moro / Gallery 37

discography-image1.jpg

Fis Ebrill 2006 cefais wahoddiad gan y Royal Shakespeare Company i fod yn gyfansoddwr/ cydweithredwr / athrawes ar gyfer The Two Gentlemen of Verona gan Shakespeare cynhyrchiad a berfformiwyd fel rhan o wyl The Complete Works yn Stratford-upon-Avon. Cydweithrediad rhwng dau gwmni o bobl ifainc: – Nos do Morro (Ninnau o’r llechwedd) lleoledig yn Rio, Brasil a Gallery 37 lleoledig yn Birmingham perfformiwyd ym Mhortiwgaleg a Saesneg.

Creodd y cyfarwyddwr Guti Fraga Nos do Morro ddeng mlynedd yn ôl gan obeithio y gallai pobl ifainc ddod o hyd i fywyd boddhaus drwy’r celfyddydau yn hytrach na thrwy gyffuriau a throsedd sydd mor gyffredin yn favelas Rio. Bu’r athrawes llais Cissely Berry yn teithio i Rio bob blwyddyn i weithio gyda phobl ifainc Nos do Morro ar destunau Shakespeare. Cefais wahoddiad i fynd i Brasil gyda Cisely i weithio gyda’r cwmni.

Sefydliad yn Birmingham sydd yn cynnal gweithdai’r celfyddydau a pherfformio ar gyfer pobl ifainc yn ystod gwyliau’r haf gan annog pobl o wahanol diwylliannau a chefndiroedd i gymryd rhan yw Gallery 37.

Fy rôl i yn y cynhyrchiad ochr yn ochr â’r gyfarwyddwraig Deborah Shaw a Cissely Berry oedd dod o hyd i ffordd o integreiddio Gallery 37 i mewn i gynhyrchiad Nos do Morro drwy gerddoriaeth. Roedd yr amserlen pythefnos yn gweithio gyda Gallery 37 a phythefnos i ddod â’r ddau gwmni ynghyd yn un dwys! Roedd cyfuno grwp profiadol o bobl ifainc gyda grwp oedd wedi gwneud ychydig iawn a rhai ohonynt heb wneud dim o gwbl yn her ynddo’i hun. Hyfryd o beth oedd gweld y cyfnewid diwylliannol rhwng y bobl ifainc. Teimlaf yn falch iawn o fod yn ymwneud a’r fath brosiect ac mae’n bwriad gennyf i ddychwelyd i Frasil i weithio gyda Nos do Morro y flwyddyn nesaf.

tags: ,

Back