englishcymraeg

Digwyddiadau Bwriadwaith - Frankenstein

frank4opt.jpg

Ail-adrodd Frankenstein Mary Shelley

Gwaith ar y cyd gyda Ben Haggarty

Bu Sianed a Ben yn cydweithio’n gyntaf ar ‘Midir ac Eadoine’ epig Wyddelig o’r 10fed ganrif. Stori am natur ddwys a dinistriol harddwch a chariad yn ymchwilio’n ddwfn i mewn i dywyllwch yr ‘arall fyd’. Profodd i fod yn gyfuniad disglair:-

Mae seinweddau Sianed yn torri allan i ganu yn achlysurol ac mae gan Ben berfformiad hynod o gorfforol sy’n swyno dychymyg y gynulleidfa. Roedd naws fyrfyfyriol yr adrodd a’r creu sain yn sicrhau fod pob perfformiad yn unigryw. Roedd eu perfformiad yn llythrennol yn codi’r to yng Ngŵyl Beyond the Border.

Yn ’99 teithion nhw i gwrdd â’r cantorion epig yn Kazakstan a Kyrgyzstan ac yn eu tro i berfformio ‘The Transformation Tales’ cyfres o straeon o draddodiad epig Yr Ynysoedd Prydeinig.

frank1opt

Frankenstein yw eu cydweithrediad diweddaraf a gomisiynwyd gan Wyl Lenyddiaeth Y Gelli 2002, perfformiwyd yn Y Barbican 2003 ac roedd yn ffurfio rhan o daith Gods and Monsters 2004. Mae Sianed wedi symud o waith acwstig yn unig at weithio gydag effeithiau electronig, bâs trydanol, yn defnyddio naws pync yn y caneuon ac yn defnyddio traciau cyfeilio, gyda Ben yn ymgorffori penbleth y gwyddonydd dioddefus ac yn cael blas ar natur gorfforol yr Anghenfil.

Bydd rhagor o berfformiadau o Frankenstein felly cadwch eich llygaid ar agor!

Adolygiadau Ben Haggarty

‘I was spellbound – I don’t use the word lightly – as Ben turned the austere lecture theatre around us into a flickering cave of wonder…

‘If you have a chance to hear the tales which have shaped the dreams of humankind, tales of the gods and monsters that haunt us still then sit down and listen’

The Times 2000

Haggarty’s telling is an adroit mix of the imposingly epic and the reassuringly rhythmic,tempered by a twinkle that admits to the story’s heightened nature without mocking it…’

The Times (2006)

‘… and what a story this one was – not a simple one of unwitting, but a playful one that unraveled itself mischievously in Haggarty’s skilful telling…’

The New Statesman

tags: ,

Back