Digwyddiadau Bwriadwaith - Taliesin
Taliesin
Yn 2007 enillodd cyfansoddwr Sianed Jones a gwneuthurwr Fideo Henrietta Hale Wobr Cymru Greadigol gan Cyngor Celfyddydau Cymru i gnweud Taliesin, Gwaith Gosod a Perfformiad / Fideo efo tair scrin. Roedd berfformiad ‘o’I cywaith’ wedi digwydd at Ty Dawns Diversions yng Ghanolfan Mileniwm Cymru hydref 2007. Mae Taliesin yn baratoi fynd am daith dros Cymru a’r byd ! yn ystod Hydref 2007 a Gwanwyn 2008.
Y Gwaith
Byd chwedloniaeth a hanes yn cyfarfod yn enw Taliesin
Wedi ei hysbrydoli gan gantorion arwrgerddi Kazakhstan ar ol dychwelyd i Gymru roedd Sianed yn benderfynol i greu gwaith yn deillio o gerddi Taliesin o’r chweched ganrif. Efo lleisiau llinynnau, “driving grooves” a recordiwyd o flaen llaw bydd Sianed yn canu y barddoniaeth , hefyd yn chwarae violin, harmoniwm telyn a bass mewn gofod tywyll wedi ei amgylchu a thair scrin yn dangos awenyddiaeth yn Gymraeg a Saesneg, darluniau a delweddau a ffilmiwyd yng Ngorllewin Cymru.
Mae llawer o’r delweddau a geir ym marddoniaeth Taliesin yn sylfaenol, tan, goleuni, tywyllwch, dwr, gwynt a phwerau natur. Trwy fynd i le tywyll, ogof, ffynnon neu lyn, tu fewn, neu o dan y ddaear, pwrpas y dyn hysbys yw dod o hyd i ysbrydoliaeth. Ar ol amser daw allan i oleuni tan neu haulwen. Felly y canodd Taliesin ei gan gyntaf ar ol dod allan o dywyllwch sach y garan (ar ol deugain mlynedd) yn y tywyllwch. Ystyr enw Taliesin yw talcen disglair.
Nid pwrpas y delweddau ar ffilm yw dweud storiau yn seiliedig ar y barddoniaeth ond yn hytrach ymchwiliadau ydynt o’r byd naturiol, cysgod goleuni ar gorff yn symud dan y dwr, olion tan, adlewyrchiadau brwyn yn dawnsio yn y gwynt, mwg yn codi o’r crochan. Mae y delweddau wedi eu dewis i ddwyn i gof y byd arall a hud a lledrith, y pair ysbrydoliaeth a’r dyn hysbys a welir yma fel nofiwr o dan y
dwr.
Mae y geiriau a welir ar ffilm yn rhoi profiad gweledol o’r llais yn llafarganu, adrodd a chanu y barddoniaeth henafol Cymraeg. Y rhediad, y seinio haniaethol, yr alawon a’r dilyniant harmonig yn deillio ac a grewyd gan yr iaith.












