englishcymraeg

Taliesin - Genedigaeth Taliesin

gwionbachoptjpg.jpg

Genedigaeth Taliesin

Roedd gan wr bonheddig Tegid Foel, wraig o’r enw Ceridwen a dau o blant, Creirwy, y ferch harddaf yn y byd, ac Afagddu, y bachgen hyllaf. Roeddent yn byw ar ynys ynghanol llyn Tegid. I ddigolledu hagrwydd Afagddu penderfynodd Ceridwen iw wneud yn arbennig o ddeallus. Felly berwodd y pair ysbrydoliaeth a gwybodaeth am flwyddyn a diwrnod. Casglodd y llysiau hudol yn ol y tymhorau ac yn ol symudiaad y planedau. Tra yn casglu’r llysiau gorchmynodd Gwion bach i ofalu’r pair. Tua diwedd y flwyddyn disgynnodd tri diferyn poeth allan o’r pair ar fys Gwion bach. Gwthiodd ei fys mewn yw geg ac ar unwaith deallodd natur ac ystyr pob peth yn y gorffennol. y presennol a’r dyfodol a deallodd yn syth y byddai Ceridwen am ei ladd yn union ar ol iddo orffen ei waith.

Dihangodd, a’r wrach Ceridwen ar ei ol. Trwy ddefnyddio y pwerau a gafodd o’r pair hudol newidiodd ei ffurf i ysgyfarnog, gwnaeth hithau ei ddilyn yn ffurf milgi. Neidiodd i’r afon fel pysgodyn, a gwnaeth hithau ei throi ei hun yn ddyfrgi. Hedfanodd i’r awyr fel aderyn a newidiodd y wrach ei hun i fod yn hebog. Newidiodd ei hun i fod yn hedyn o wenith ar lawr yr ysgubor a daeth Ceridwen ar ei ol fel giar ddu i grafu’r gwenith efo’i thraed a llyncodd yr hedyn.

Mewn naw mis rhoddodd enedigaeth i Gwion. Methodd yn ei chalon a’i ladd gan ei fod mor hardd. Felly clymodd ef mewn sach ledr a taflodd ef i’r mor. Cariwyd ef i argae Gwyddno Garan Hir ger Aberystwyth ym mae Ceredigion ble yr achubwyd ef gan y tywysog Elfyn, mab Gwyddno a nai y Brenin Maelgwyn o Wynedd. Enwodd y baban Taliesin (Talcen Disglair).

tags:

Back